Cwestiwn 1 - Yn eich barn chi,
a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu at y
deilliannau a’r targedau a nodir yng Nghynllun Strategol y
Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru?
|
Yn fy marn i,
mae’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn deillio o
Gynllun Llywodraeth Cymru, ac yn cyfrannu i raddau (ond nid yn
ddigonol ar hyn o bryd) tuag at gwrdd â’r
targedau.
|
Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau
Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu ddigon, sut y gellir
datrys hyn?
|
Mae angen diogelu cyllid penodol, ac felly
warchod rhag toriadau er mwyn sicrhau digon o adnoddau dynol i
weithredu’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn
iawn.
|
Cwestiwn 2 - Yn
eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn
sicrhau’r newidiadau angenrheidiol mewn awdurdodau lleol, neu
a allant wneud hynny (er enghraifft, sicrhau eu bod yn darparu ar
gyfer unrhyw gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg)?
|
Yn fy marn i,
mae’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn
sicrhau’r newidiadau angenrheidiol yn Awdurdod Lleol
Ceredigion, trwy ailstrwythuro Addysg gynradd yng nghylch
Aberystwyth (prosesau wedi cychwyn), trwy agor ysgol ddwyieithog
Bro Teifi 3-19 ym Medi 2016, a thrwy gynllunio ar gyfer agor ysgol
fro Drefach yn Ionawr 2017. Hefyd, aethpwyd i’r afael
â darparu ar gyfer hwyrddyfodiaid yn ne’r sir trwy agor
Canolfan y Castell – Canolfan Iaith newydd ym Medi
2014.
Mae cynlluniau ar
y gweill (Haf/Medi 2015) i gynnal holiadur i rieni plant cyn-ysgol,
i ddiweddaru’r sefyllfa parthed gofynion rhieni am addysg
gyfrwng Gymraeg (gan gymharu â chanfyddiadau’r holiadur
diwethaf).
|
Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau
Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau newidiadau, neu na allant
wneud hynny, sut y gellir datrys hyn?
|
n/a
|
Cwestiwn 3 - Beth yw eich barn
ar y trefniadau ar gyfer pennu targedau; monitro; adolygu; cyflwyno
adroddiadau; cymeradwyo a chydymffurfio â gofynion Cynlluniau
Strategol Cymraeg mewn Addysg (a rôl awdurdodau lleol a
Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn)?
|
Da o beth fyddai
derbyn canllaw ac amserlen glir gyda’r Llywodraeth yn
flynyddol yn cael ei gefnogi gydag ymweliad swyddog i egluro a
chyfleu disgwyliadau ac amserlen weithredu’r flwyddyn.
Mae angen eglurder yn benodol ar rai materion data, e.e. data ail
iaith, data nifer o gymwysterau drwy gyfrwng y Gymraeg, er mwyn
cyd-ddiffinio disgwyliadau cyson ar draws Cymru o’r
cychwyn.
|
Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn,
sut y gellir eu datrys?
|
Gweler uchod.
|
Cwestiwn 4 - Yn eich barn chi,
a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn amlygu
rhyngweithio effeithiol rhwng strategaeth addysg Gymraeg
Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol
eraill*?
(*er enghraifft, polisi cludiant ysgolion; rhaglen Ysgolion yr
Unfed Ganrif ar Hugain; y datganiad polisi - Iaith fyw:iaith byw;
Dechrau’n Deg; polisi cynllunio)?
|
Yn fy marn i
– ydyn, mae’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg
yn gynhwysol iawn – mae asiantaethau gwahanol o fewn yr
Awdurdod Lleol yn targedu agweddau gwahanol, er mwyn cwmpasu popeth
yn y pen draw. Mae ymweliadau â rhai o’r
asiantaethau hyn wedi darparu darlun calonogol o’r cynlluniau
a’r weledigaeth i weithredu, ond mae pob un ohonynt yn wynebu
heriau oherwydd toriadau i’w gwasanaeth.
|
Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn,
sut y gellir eu datrys?
|
Mae angen blaenoriaethu amser i
gydgordio’n lleol – amser i gyfarfod a rhannu
gwybodaeth a syniadau. Trwy hynny, gellid sicrhau ein bod yn
goresgyn awyrgylch o ddiffyg cyfathrebu.
|
Cwestiwn 5 - Yn eich barn chi,
a yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg
yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl, gan gynnwys er
enghraifft, disgyblion cynradd / uwchradd; plant o gartrefi incwm
isel?
|
Yn fy marn i,
llwyddir i ystyried a herio pob categori o ddisgybl yn y Cynlluniau
Strategol Cymraeg mewn Addysg, a chaiff hyn ei ddadansoddi
trwy systemau data’r Awdurdod Lleol.
Eto i gyd, credaf
fod y targedau meintiol yn rhy uchelgeisiol i CA4 ar adegau, gan eu
bod yn cael eu seilio ar berfformiad disgyblion yn CA2 ac
iau.
|
Os ydych o’r farn nad yw
canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg
yn sicrhau canlyniadau teg, sut y gellir datrys hyn?
|
Oherwydd amrywiadau ieithyddol o fewn gwahanol
siroedd yng Nghymru, mae’n annheg cymharu ysgolion –
mae angen systemau cyson a chadarn ar draws Cymru os am
gymedroli’n gywir a chategoreiddio ysgolion yn deg.
Byddai creu ‘teuluoedd ystadegol’ o ALl yng Nghymru
sydd â pholisiau iaith tebyg yn golygu bod modd cymharu
perfformiad yn fwy dilys.
|
Cwestiwn 6 - Os byddai'n rhaid
ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o'r holl bwyntiau
rydych wedi'u nodi, beth fyddai'r argymhelliad hwnnw?
|
Byddwn yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn
gweithredu er mwyn osgoi hinsawdd o newidiadau diddiwedd,
oherwydd bod angen rhoi cyfle i ysgolion weithio er mwyn iddynt
ddeall a gwreiddio’r cwricwlwm diwygiedig, er mwyn magu hyder
a chael amser i wella canlyniadau.
|
Cwestiwn 7 - A oes gennych
unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu codi na soniwyd
amdanynt yn y cwestiynau penodol?
|
Pwysedd gwaith – mae angen pwyllo, neu
byddwn yn colli athrawon a phenaethiaid da a
rhagorol.
Mae angen darparu canllawiau clir ar gyfer
cyfateb lefelau’r Cwricwlwm Cenedlaethol presennol
gyda’r Cwricwlwm Diwygiedig.
Mae angen gwella argaeledd dogfennau pwysig a
sicrhau gwefannau hylaw.
|